Gellwch ddod o hyd i narcissus ‘Gŵyl Sant Padrig’, sy’n gwynto’n felys, ynghyd â mathau eraill o gennin Pedr yn yr Ardd Ddeu-fur, wrth ymyl y Tŷ Trofannol.
Fel planhigion ‘monocot’ eraill sy’n tyfu gerllaw, mae rhannau blodeuog cennin Pedr yn dod mewn 3 rhan, ac felly â 6 thepal (nid oes gwahaniaeth rhwng eu petalau a’i sepalau, felly fe’u gelwir yn ‘depalau’), a 3 brigeryn sy’n cynhyrchu 3 o hadau. Mae sawl math o gennin Pedr i’w gweld yng Ngardd Wallace hefyd.