Mae’r Gacynen Cynffon Lwydfelen yn rhywogaeth gyffredin sydd i’w chael mewn llawer o amgylcheddau gwahanol, er enghraifft gerddi a dolydd, a hynny yn y gwanwyn, yr haf a hyd yn oed yr hydref.
Mae gan y breninesau gynffon oren-frown, ond cynffon wen sydd gan y gweithwyr a’r gwrywod.
Mae’r rhywogaeth hon yn perthyn i gategori’r cacwn tafod byr, sy’n golygu na allant chwilota mewn blodau â chorolae hir am nad yw’n bosibl iddynt gyrraedd y neithdar. Fodd bynnag, os bydd angen, gallant ddwyn y neithdar trwy gnoi twll yng ngwaelod y corola!
Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar hyd a lled yr Ardd, ond ddiwedd y gaeaf efallai y gwelwch freninesau sydd wedi dod i’r golwg yn chwilota ar rug y gaeaf a saffrwm.