30 Medi 2021

Blog Cadw Gwenyn: I Mewn i’r Hydref

Martin Davies

I Mewn i’r Hydref

Mae naws yr hydref yn sicr wedi dod. Cawsom sawl bore niwlog ac yna heulwen braf a chawodydd nawr ac yn y man. Mae rhai dail yn dechrau disgyn, sydd bob amser yn gwneud i fi ryfeddu, ac mae gennym liwiau tymhorol yr hydref i edrych ymlaen atynt yn yr wythnosau nesaf.

Mae’r cnwd mêl wedi’i gasglu ac wedi ei dynnu fwy neu lai. Mae rhywfaint wedi ei  roi mewn poteli a’i roi yn ein siop i’w werthu, a rhywfaint wedi ei storio i’w werthu yn y gwanwyn a’r haf.

Mae’r nythfeydd i gyd wedi eu gadael gydag o leiaf storfeydd hael i’w helpu drwy fisoedd y gaeaf. Mae blodau’r Serenllys a’r Friweg yn eu blodau ac mae darnau helaeth o fannau fforio o fewn yr Ardd o hyd. Mae’r cloddiau’n edrych yn ddigon moel, er bod arwyddion o Falsam Himalaya yn cael eu defnyddio gan fod streipiau gwynion ar gefnau’r gwenyn pan ddônt yn ôl o fod yn fforio. Ac yn fuan bydd yr iorwg yn ei flodau i ychwanegu at storfeydd y gwenyn mêl ac yn fwyd i beillwyr eraill.

Yn ddiweddar rydym wedi cwblhau archwiliadau afiechyd yn ein nythfeydd ac wedi sicrhau faint o widdon Varroa sydd ym mhob cwch. Yn rhai o’n nythfeydd roedd niferoedd mwy nag y byddem wedi hoffi, felly rydym wedi penderfynu trin ein gwenynfeydd i gyd â thriniaeth Varroa. Bydd hyn yn sicrhau na fydd ein gwenyn gaeaf yn gwanhau oherwydd pla mawr o widdon a’u bod yn y cyflwr gorau i fyw drwy fisoedd maith y gaeaf i ddod.

Mae ein cais i gael anfon eitemau i’r Sioe Fêl Genedlaethol nawr wedi’i gyflwyno, ac mae angen inni nawr fod yn gwneud llawer o ganhwyllau, eitemau o gŵyr, potelu mêl ac ymarfer ein rysetiau teisennau ar gyfer y Sioe ddiwedd mis Hydref. Byddwn hefyd yn trefnu stondin “Achub Peillwyr” yn y sioe i ddangos gwaith ein Tîm Gwyddoniaeth a’r prosiect Tyfu’r Dyfodol. Bydd hyn yn gyfle hefyd inni ddangos ein harddangosfa Ffrâm Haid sydd wedi’i chreu gan y Grŵp Pwytho Botaneg ac yn rhannu ein gwaith ar y Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr. Mae’n deimlad braf gallu mynd i sioe fyw eto, ac rydyn i’n edych ymlaen yn fawr iawn i rannu ein gwaith gydag eraill.