Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn yr Ardd Fotaneg gyda cherddoriaeth a dawns.
Bydd Shelley Fairplay yn y Tŷ Gwydr Mawr rhwng 11yb ac 1yp yn diddanu ymwelwyr gyda’i thelyn.
Bydd Dawnswyr Tipyn o Bopeth, grŵp dawns werin leol yn y Cwrt o’r Bloc Stablau o 1yp yn arddangos dawnsio gwerin draddodiadol Gymreig. Dewch i ymuno yn y dawnsio!
Bydd digonedd o gennin Pedr allan hefyd, dewch i ddarganfod y gwahanol fathau sydd gennym yma.