Adam yn yr Ardd Fotaneg
Mewn partneriaeth â Menter Cwm Gwendraeth Elli, ymunwch ag Adam yn yr Ardd am daith llawn gwybodaeth o gwmpas yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Cewch elwa o brofiad a gwybodaeth Adam ar arddio, gan hefyd ddysgu mwy ar waith yr Ardd Fotaneg. Bydd yna bwffe ar ddiwedd y daith.
Mae tocynnau’n £15 yr un sy’n cynnwys mynediad i’r Ardd Fotaneg, i gofrestru, cysylltwch ag Elen ar elen@mcge.org.uk.
Taith yn yr iaith Gymraeg yw hon, sy’n addas ar gyfer dysgwyr.