Dewch i ymweld â’r Ardd Fotaneg ar Sul y Tadau, darganfod harddwch ein gerddi thematig, archwilio’r parcdir hanesyddol gyda Llwybr Gryffalo newydd a beth am drin Dad i ginio blasus yn Cafe Botanica.
Mae gan y Ganolfan Adar Ysglyfaethus arddangosfa hedfan anhygoel am 11:30yb, 1:30yp a 3.30yp, lle byddwch yn gallu gweld yr adar ysglyfaethus yn hedfan ac yn dangos eu sgiliau naturiol.
Yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Tadorna, bydd Gweithdy Dydd y Tadau yn cynnwys gweithdy naturiol blasus, cliciwch yma i archebu lle.
Mae gan Hwb Bywyd Gwyllt Tadorna hefyd y gweithgareddau canlynol sy’n addas i’r teulu cyfan:
11:00yb – 11:30yp – Agor trap gwyfynod
1:00yb – 1.30yp – Cerdded trwy’r ddôl
2:0yp – 4.00yp – Gweithgareddau crefft
Gellir dod o hyd i Hwb Bywyd Gwyllt Tadorna yn yr ardal y tu ôl i Gaffi Botanica yn y Bloc Stablau.
Bydd Band Gwynt Symffonig Caerfyrddin hefyd yn chwarae yn Sgwâr y Mileniwm rhwng 1yp-3yp. Mae eu cerddoriaeth yn cynnwys repertoire amrywiol sy’n cwmpasu sgorau clasurol i ffilm, Mozart i Pharell Williams. Mae Band Gwynt Symffonig Caerfyrddin yn unigryw, ac mae angen eu clywed.