5 May 2016

Y Tŷ Gwydr Mawr ar ei orau

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Nawr yw’r amser perffaith i ymweld â’r Tŷ Gwydr Mawr.

Y gromen ysblennydd yma yw’r tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd ac mae’n edrych ar ei gorau ar hyn o bryd!
Mae’n llond planhigion o barth hinsawdd y Canoldir o gwmpas y byd, sy’n cael eu magu a’u ofalu gan ein tîm ‘dan do’ ymroddedig a fu’n mwynhau’r manteision o fod o dan wydr.

Ar hyn o bryd, mae’r coed leilac o Galiffornia, a blodau o Orllewin Awstralia, De Affrica, Chile a basn y Canoldir yn edrych yn fendigedig. Ond y blodau o’r Ynysoedd Dedwydd – y chweched parth Canoldirol – sy’n sefyll allan o’r dorf.
Mae yna big y crëyr o Fadeira, coed draig anferthol; a blodau hynod ar agor o gwmpas y lle ond yr olygfa gorau ar yr amser hwn o’r flwyddyn yw’r echium.

Maent yn ‘ffrwydro’ i fywyd nawr, fel tân gwyllt symudiad-araf syfrdanol, yn ymestyn tuag at yr haul efo’u pigau anferth sy’n cael eu gorchuddio’n gyflym gan flodau i wneud yr olygfa yn well byth.

Peidiwch ag anghofio am ein Caffi’r Canoldir sydd wedi ei leoli tu fewn y Tŷ Gwydr Mawr hefyd – y man perffaith i fwynhau’r golygfeydd, y synau a’r aroglau’r Canoldir, gyda choffi a chacennau!

Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 6yh, efo mynediad olaf am 5yh.

Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio AM DDIM i bawb.

Cyfarwyddwr Newydd
Hoffem gymryd y cyfle hwn i groesawu Huw Francis fel y cyfarwyddwr newydd yr Ardd.

Bydd yn dechrau ei swydd newydd ar 13 Mehefin

Diwrnod Cŵn
Mae ein Diwrnod cŵn nesaf ar dydd Mercher 11 May – cyfle gwych i ddod â’ch ci am dro o amgylch yr Ardd.

Aelodaeth ar gyfer cŵn ar gael hefyd, gofynnwch yn y Porthdy am fwy o fanylion

Mercher Mwdlyd
Mae Dydd Mercher Mwdlyd yma eto at Mai 11. Awr o hwyl & gemau i blant o dan oed ysgol yn dechrau 11yb.

Mynediad am ddim i blant o dan 5.

Ffoniwch 01558 667149 am rhagor o wybodaeth.

Cyrsiau yr Ardd
14.05.16 Dylunio Garddi
21.05.16 Blodau Haul a Gwas y Neidr
22.05.16 Ffeltio gyda Gweunydd
28.05.16 Darlunio mews Golosg a Graffit
28.05.16 Basged siopa traddodiadol Gymraeg