Sgwrs a Lansio Llyfr ar Dyfu’n Ddoeth a Newid yn yr Hinsawdd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Ar ôl ei sgwrs a’i sesiwn holi ac ateb am ddim (12 canol dydd i 1.30pm) bydd hi’n llofnodi copiau o’i llyfr newydd The Climate Change Garden ganddi hi a’i chyd-awdures Sally Morgan a’i gyhoeddi gan The Quarto Group.  

Mae Kim yn byw yng Ngheredigion ac mae wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau fel The Guardian am y newid yn yr hinsawdd a garddio gwydn ers 2013. Mae’n cyfrannu colofnau garddio i sawl cylchgrawn, gan gynnwys Grow Your Own a Country Smallholding, ac mae’n golygu The Organic Way for Garden Organic. Mae Kim hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd i amrywiol gyhoeddiadau fel y cylchgrawn Gardeners’ World, Bloom, The Telegraph, The Lancet, a The Daily Express. Mae’n rhedeg cyrsiau niferus ar dyfu planhigion gwydn o’i gerddi hyfforddi ger y Ceinewydd ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, RHS, Kate Humble a llawer iawn mwy.

Mae Kim yn dweud ei bod wrth ei bodd yn cael lansio’i llyfr yn yr Ardd Fotaneg lle mae cynifer o enghreifftiau o dyfu naturiol, organaidd. Mae’n ofni ein bod yn byw mewn adeg mor anodd gydag eithafion cynyddol o ran tywydd, argyfwng costau byw a nifer o broblemau eraill hefyd. Nid garddio fel arfer yw hi mwyach, na byw fel arfer chwaith, ac yn y sgwrs bydd hi’n rhannu nifer o gynghorion  sy’n arbed amser ac arian gan adeiladu gwydnwch yn y garddwr yn ogystal â’r lle garddio. A bydd atebion naturiol i heriau ac atebion ymarferol i helpu cynnal ein hamddiffynfeydd. Nid yw garddio fel yr arferai fod, ond mae gobaith a chyfle, os gweithiwn gyda’n gilydd o fewn ein cymunedau lleol a gyda byd natur, y gallwn ddod drwy’r storm hon gyda’n gilydd.

Mwy am Kim Stoddart

Mae Kim wedi ennill nifer o wobrau, fel gwobr newyddiadurwraig amgylcheddol y flwyddyn yn 2022 gan The Garden Media Group. Roedd hefyd ar y rhestr derfynol ar gyfer newyddiadurwraig arddio’r flwyddyn yn 2022. Yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau cenedlaethol a dysgu ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol, mae Kim yn frwd iawn dros helpu garddwyr yng Nghymru i ychwanegu gwydnwch, ac mae’n cynnal  nifer o gyrsiau ar y safle gyda grwpiau lleol, ysgolion, banciau bwyd a chymdeithasau i helpu arbed arian a thyfu bwyd yn effeithiol. www.greenrocketcourses.com

Y llyfr The Climate Change Garden  

Mae ei llyfr newydd, gyda’i chyd-awdures Sally Morgan, yn ganllaw i greu gardd wydn sy’n ymwybodol o’r hinsawdd. Mae’n esbonio sut i ddelio â thywydd eithafol anghyson ac effeithiau eraill oherwydd hinsawdd sy’n newid yn gyflym. O wres eithafol, sychdwr, llifogydd, stormydd eithafol… i berygl mwy o blâu ac afiechydon oherwydd bod ein hinsawdd yn cynhesu. . The Climate Change Garden yw’r llyfr cyntaf i gynnig atebion ymaferol a gobeithiol, materion fel pa fathau o erddi sydd fwyaf addas i ddelio â digwyddiadau eithafol fel hyn a pha dechnegau, arferion a chyfarpar y gellir eu defnyddio orau yn ein gerddi i helpu lleddfu’r materion hyn. 

The Climate Change Garden yn ymwneud â gweithio gyda’r byd naturiol i greu gardd gynhyrchiol, cynnal a chadw isel, sy’n arbed yr hinsawdd, sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau hinsawdd sy’n newid yn gyflym.

Mae Cool Springs Press yn rhan o The Quarto Group www.quartoknows.com

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, i gynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd.     

Mae’r Ardd Fotaneg 10 munud oddi ar yr M4 a dwy funud oddi ar yr A4, hanner y ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.

Cyfeiriad yr Ardd Fotaneg yw:

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Llanarthne, SA32 8HN