Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr

  • Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lansio cynllun logo planhigion peillio, sef y cynllun cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig i gael ei gefnogi gan wyddoniaeth codau bar DNA
  •  Mae’n cael ei gyflwyno i dyfwyr a meithrinfeydd fel y gall siopwyr fod yn sicr bod planhigion cymwys yn ddeniadol i wenyn a phryfed peillio eraill, nad ydynt yn cynnwys pryfladdwyr synthetig, a’u bod yn cael eu tyfu mewn compost di-fawn
  •  Y bwriad yw atal dirywiad peillwyr a gwneud lles i fywyd gwyllt eraill megis draenogod, adar y to a brogaod

Bydd ymgyrch newydd i ddiogelu peillwyr yn rhoi diwedd ar y gêm rwlét yr ydym yn ei chwarae bob tro y byddwn yn prynu planhigyn.

Am y tro cyntaf, gall garddwyr brynu planhigion sydd â gwarant eu bod yn llesol i wenyn a pheillwyr eraill.

Lansiodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ei Chynllun Sicrwydd Achub Peillwyr a gefnogir gan ymchwil wyddonol flaengar yr Ardd.

Eglurodd y Pennaeth Gwyddoniaeth, Dr Natasha de Vere: “Gwelwyd cynnydd enfawr mewn garddio yn ystod y cyfnod clo wrth i lawer mwy o bobl dreulio rhagor o amser a gwario mwy o arian yn prynu planhigion i sicrhau bod eu gerddi yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt, a hynny heb sylweddoli y gallai’r planhigion fod yn cynnwys gweddillion pryfladdwyr synthetig sy’n eithriadol o beryglus i’n peillwyr ac i’n hamgylchedd.

“Mae yna gynifer o labeli mewn canolfannau garddio a siopau eraill, sy’n hysbysebu planhigion yn rhai sy’n gyfeillgar i wenyn neu i beillwyr, a hynny, yn aml, pan nad oes yna lawer o dystiolaeth o’u buddion.

“Mae tîm o wyddonwyr yma yn yr Ardd Fotaneg wedi bod yn defnyddio codau bar DNA i ymchwilio i’r planhigion y mae gwenyn mêl, gwenyn unig, cacwn a phryfed hofran yn ymweld â nhw. Mae ein Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr yn manteisio ar werth 17 mlynedd o’r ymchwil hon ac yn sicrhau bod y canlyniadau yn hygyrch i arddwyr.”

Mae yna eisoes 23 o dyfwyr a meithrinfeydd arbenigol sy’n cymryd rhan ac sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, ac maent yn defnyddio’r logo Achub Peillwyr newydd. Mae trefnwyr y cynllun yn gobeithio y gall y cysyniad gael ei gyflwyno i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac maent yn galw ar y diwydiant garddwriaeth a manwerthu planhigion gardd i dalu sylw.

Mae’r Cynllun Sicrwydd yn cael ei redeg gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd Fotaneg. Dywedodd swyddog gwyddoniaeth Tyfu’r Dyfodol, Dr Kevin McGinn: “Mae’r planhigion ar gyfer peillwyr a warantir gan ein cynllun nid yn unig yn meddu ar gefnogaeth tystiolaeth wyddonol, ond maent hefyd wedi cael eu hau, eu tyfu a’u meithrin gan amrywiaeth o dyfwyr angerddol mewn amgylchedd di-fawn heb unrhyw bryfladdwyr synthetig. Gall y prynwyr fod yn sicr y bydd y planhigion hyn nid yn unig yn denu peillwyr, ond eu bod hefyd wedi cael eu tyfu mewn ffordd gynaliadwy.”

O ran y mater yn ymwneud â mawn, ychwanegodd Kevin: “Mae yna ddefnydd helaeth o gompost mawn o hyd, ond mae hyn yn niweidiol iawn i’r amgylchedd. Mae tynnu mawn o’r ddaear yn dinistrio cynefinoedd gwerthfawr ac yn achosi i symiau enfawr o garbon deuocsid gael eu rhyddhau, ac mae hyn yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Mae mawn hefyd yn dal symiau enfawr o ddŵr, felly mae echdynnu mawn yn peri i’r tir fod yn fwy agored i lifogydd. Mae ein cynllun gwarantu newydd yn cynnwys dim ond y planhigion hynny a dyfir heb fawn.”

Mae’r dirywiad eithafol yn nifer y pryfed peillio wedi’i achosi’n rhannol gan y defnydd o neonicotinoidau a phryfladdwyr eraill.

Mae ymchwil yn cadarnhau y gall hyd yn oed y planhigion hynny sydd wedi’u labelu’n ‘gyfeillgar i beillwyr’ gan fanwerthwyr gynnwys pryfladdwyr a all fod yn wenwynig. Bydd prynu planhigion a dyfwyd heb bryfladdwyr synthetig yn helpu i atal dirywiad peillwyr a hefyd yn fuddiol i fywyd gwyllt sy’n bwyta pryfed, er enghraifft draenogod, adar y to a brogaod.

Dywedodd Dr de Vere: “Mae’r ymgyrch newydd hon yn ymwneud â thynnu sylw at yr hyn y gall garddwyr ei wneud i wella’r amodau ar gyfer pryfed, ond mae arnom angen ymgyrch enfawr i feithrin ymwybyddiaeth o arferion garddwriaethol cyfredol er mwyn grymuso’r prynwyr i wneud y peth iawn.

Logo’r Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr

“Cadwch olwg am logo’r Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr ar blanhigion mewn canolfannau garddio a meithrinfeydd arbenigol ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys yn y man gwerthu planhigion yma yn yr Ardd Fotaneg. Dyma’r unig logo planhigion peillio yn y farchnad a gefnogir gan wyddoniaeth, a’r unig un sy’n rhoi sicrwydd i’r prynwyr eu bod wedi gwneud dewis amgylcheddol gynaliadwy.”

  • Mae tyfwyr a meithrinfeydd ar hyd a lled Cymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun. Darganfyddwch ragor amdanynt yma
  • Darllenwch flog gan Dr Kevin McGinn yma
  • Yn y Deyrnas Unedig, mae tua 27 miliwn o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau garddio – cyfran enfawr o’r boblogaeth o 64 miliwn.
  • Mae gerddi preifat yn ymestyn dros arwynebedd o bron 440,000 hectar – un rhan o bump o arwynebedd Cymru. Yn nhermau tirwedd warchodedig, mae hyn yn gyfwerth ag arwynebedd Llynnoedd Norfolk a Pharciau Cenedlaethol Exmoor, Dartmoor ac Ardal y Llynnoedd gyda’i gilydd.
  • Yn ôl y Gymdeithas Fasnach Arddwriaethol, mae marchnad arddio’r Deyrnas Unedig yn werth tua £5.7 biliwn (heb gynnwys tirlunio ac amwynder).
  • Mae yna 2,300 o ganolfannau garddio a meithrinfeydd manwerthu yn y Deyrnas Unedig.
  • Roedd garddwriaeth addurnol a thirlunio yn y Deyrnas Unedig wedi cyfrannu tua £24.2 biliwn i’r cynnyrch domestig gros yn 2017.
  • Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymgymryd â phrosiect pum mlynedd i hyrwyddo garddwriaeth yng Nghymru, planhigion ar gyfer peillwyr, amddiffyn bywyd gwyllt, a rhinweddau tyfu planhigion ar gyfer bwyd, hwyl, iechyd a llesiant.
  • Mae prosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd Fotaneg wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.